MWSTARD COCH CYMREIG... dYSGLAU GAN Dorien:
saws poeth (hot sauce)
Rhoddodd ffrind jar o’ch mwstard rhyfeddol i fi i Nadolig. Blynyddoedd yn ôl wnes i creu saws syml, blasus wedi ei sylfaeni ar fwstard, ond mae’r newid o fwstard Saesnig i Gymreig wedi ei troi o flasus i arddunol. Mae’n debyg i saws Satay, ac yn blasus gyda cig oer, yn enwedig cig eidion.
Ceisiwch hwn yn gyntaf:
1 Rhowch cig eidion ar sleisen o fara (organic yw’r gorau).
2 Rhowch mwstard Cymreig ar ei ben.
3 Rhowch peanut butter ar sleisen arall o fara.
Peidiwch ag ofni.
4 Rhowch yr ail sleison o fara ar ben y cyntaf, torrwch i fewn i bedwar a bwytwch!
Mae cymysgedd, o dywedwch un rhan mwstard Cymreig a dwy rhan peanut butter, hefyd yn grêt fel dip. Mae spare ribs yn dwli amdano.
Dw’i wedi ceisio meddwl am enw Cymraeg amdano, ond mae Saws-Mwstard-Cymreig-a-Peanut-Butter yn rhy hir yn Gymraeg, felly dw’i’n ei galw yn Saws Poeth (hot sauce). Dw’i’n addo chi, mae bron a bod yn amhosibl i fwyta dim ond un brechdan gyda Saws Poeth. Byddwch eisiau un arall.
Bon appetit, Dorien
BRECWAST MWSTARD CYMREIG
Rhowch gymaint o Fwstard Coch Cymreig ag yr ydych yn herio...
Mae’r ffurf sylfaenol yma wedi cael ei gweini yn Nyffrynoedd Cymru am genedlaethau, ond dim ond gyda mwstard isradd. Mae mwstard Cymreig yn rhoi zing ychwanegol iddo!
Ffriwch wy meddal wrth tostio’n ysgafn dwy sleisen o fara (yn bersonol mae well gennyf bara gwyn amdano hwn). Rhowch menyn ar un sleisen ac ysmotyn gweddus o fwstard Cymreig yn ei canol. Rhowch yr wy wedi ei ffrio ar ben hyn, ac yna ysmotyn arall o fwstard ar ei ben, yna rhowch y sleisen arall o dost ar ei ben.
Nawr (a dyma’r rhan cordon bleu) gwthiwch i lawr ar y brechdan wedi ei tostio gyda sawdl eich llaw er mwyn ymrwygo’r melynwy a chwalu’r mwstard. (Dyna pam dw’i’n awgrymu tostio’n ysgafn. Byddai tost crisb yn torri wrth gwneud hwn). Torrwch yn hanner a mwynhewch. Mae’n creu llanast ond mae’n ffantastig! Mae’n cael ei cyflenwi’n dda trwy ychwanegu madarch a selsig Morgannwg neu black pudding ar yr ochr. Am frecwast llawn Cymreig, naill ai gwnewch dwy brechdan wedi eu tostio am bob person neu ychwanegwch rasher neu ddau o facwn ar yr ochr. Mae gwydr o laeth oer yn cyfeilio’n arbennig o dda.
Bydd y brecwast llawn Cymreig yn setio chi lan am beth bynnag sy’n digwydd yn eich diwrnod. Ac mae’n hwyl. Bydd eich plant wir yn mwynhau ymrwygo melynwyau eu hunain!
Jackets CAERFFILI
Mae taten pob wastad wedi cael eu hadnabod yng Nghymru fel "Jacket potato". Nid ydynt yn cael eu sleisio lawr y canol. Dyma’r hen ffordd Cymreig o’i gwneud. Wnaeth fi a Sam Courtney creu’r fersiwn yma.Pobwch 2 hen tato Sir Benfro am 50 munud-1 awr 15 munud, yn ôl ei seis. Gwnewch cymysgedd Rarebit Mwstard Cymreig o 4oz caws Caerffili wedi ei gratio, 3 tbsp llaeth, 1 tsp Mwstard Cymreig a dwrn mawr o fenyn.
Sleisiwch top y tato pob off, llwyo allan peth o’r tu fewn, gan bod yn ofalus i beidio torri croen y tato, ychwanegwch i’r cymysgedd rarebit, taenellwch yn rhyddfrydig gyda pupur du wedi ei crensio, a chymysgwch i gyd gyda’i gilydd. (Efallai hoffech chi ychwanegu cennin neu spring onion wedi eu malu’n mân). Stwffiwch croen y tato gyda’ch cymysgedd a’u pobi nes eu bod yn brown neis. Rhowch menyn ar dop y tato a bwytwch wrth aros. Hwn yw amheuthun y cogydd!
Gallwch rhoi darnau o facwn crisp ar y top fel “flourish” terfynol.
Stroganoff MWSTARD CYMREIG
1 Cymysgwch mwstard Cymreig a iogwrt naturiol mewn bowlen (cyfartalwch yn ôl blas; dw’i’n awgrymu 1 rhan mwstard i 3 neu 4 rhan iogwrt).
2 Ffriwch digon o garlleg wedi ei malu’n mân yn y pan nes ei bod yn hylif.
3 Mewn pan arall, hanner ffriwch y cig o’ch dewis (cig eidion neu ffowlyn yw’r gorau) gyda madarch.
4 Cymysgwch yr hylif garlleg mewn i’r pan o gig a madarch.
5 Huliwch hyn gyda’ch saws mwstard a iogwrt.
6 Mudferwch nes ei bod yn barod.
Mae’n braf gyfa reis, sglodion, tato saute'd, tato pob, couscous neu noodles.
Rarebit MWSTARD CYMREIG
Cymysgwch 4 oz caws Caerffili wedi ei gratio, 3 tbsp llaeth, 2-3 tsp mwstard Cymreig a dwrn mawr o fenyn. Rhowch y cymysgedd ar dost sych a gridyllwch nes ei bod yn dechrau newid lliw a byrlymu. Rhowch bacwn crisp ar ei ben.
Glazes Mwstard cymreig
Mae Mwstard Cymreig yn gwydro selsig coctel neu chipolatas yn dda iawn. Taenellwch gyda hadau sesame cyn coginio.
Os ydych yn paratoi cinio wedi ei rhostio yn cynnwys moron neu pannas, rhowch tamaid bach o Fwstard Cymreig arnynt cyn eu rhoi yn y ffwrn. Maent yn dod allan yn danteithiol, blasus a chrisb iawn, yn enwedig ar yr ochr pigog!
(Mae hynny’n atgoffa fi o’r hen rhigwm:
I eat my peas with honey.
I've done so all my life.
It makes the peas taste funny
But it keeps them on the knife.
Nawr dyna syniad..........!)
selsig “Spicy” morgannwg
Rhannwch wy mewn i’r gwyn a’r melynwy wedi ei gosod ar yr ochr.
Cymysgwch 3oz caws Caerffili wedi ei gratio, 5oz briwsion bara, cennin neu spring onion wedi eu malu’n mân, halen a pupur wedi ei crensio i flas. Rhwymwch at ei gilydd gyda’r melynwy. Rhannwch mewn i selsig bach a’u rholio mewn fflwr. Trochwch bod un yn gwyn yr wy, rholiwch nhw yn fwy o friwsion bara a rhowch tamaid bach o Fwstard Cymreig arnynt. Ffriwch nhw’n isel.
Yn hyfryd gyda tato wedi eu llithio.
ffowlyn Courtney
Mae’r Courtneys yn tîm tad a mab ym Mhontypridd. Y mab, Sam y “foodie”, wnaeth meddwl am y resipi a’r tad, y cogydd, wnaeth gwneud y syniad yn real.Gall Ffowlyn Courtney naill ai cael ei coginio ar barbeciw neu yn ôl steil Tandoori mewn ffwrn poeth iawn. Tyllwch cluniau cyw iâr heb eu croen a’u mwydo mewn saws mwstard Cymreig a iogwrt (1 rhan mwstard i 3-4 rhan iogwrt naturiol) am 2 awr. Twymwch eich ffwrn i’r uchaf, neu dechreuwch y barbeciw. Os ydych yn ei coginio yn y ffwrn, bydd y cig yn cymryd 20 munud. Gweiniwch gyda salad.
Creadigaethau gan y cwmni mwstard cymreig
Efallai y byddech wedi blasu rhai o’r rhain yn y ffeiriau bwyd...
Y Dip
“When the white wine is dry and you feel like a nibble, use the veg for some crudité and make yourself dribble”
Mae’r resipi yma yn gwneud dip grêt i crudité a hefyd saws da i bysgod ac i lenwi brechdanau...
Cymysgwch y canlynol gyda’u gilydd mewn bowlen:-
50% Mayonnaise
50% Iogwrt Naturiol
Blaswch gyda garlleg, halen a phupur wedi ei creisio
Ychwanegwch Mwstard Coch Cymreig i flas eich hunain
(y mwyaf yr ydych yn ychwanegu, mwy poeth y bydd)
Cadwch yn oer
y saws
“Now here is something to keep you warm, you know what they say, any Port in a storm”
Mae’r saws yma i fynd gyda’ch stêcen (cig eidion neu cig mochyn) yn siwr o menu unrhyw gwadd ...
Ffriwch 2 stêcen mewn pan a’u symud o’r pan i’r gradell jyst cyn eu bod wedi eu coginio fel yr ydych yn eu hoffi. Ychwanegwch y canlynol i sudd y stêcen yn y pan, gan cymysgu’n dda:-
1 gwydr seis normal o port
1 llwy ford o Fwstard Cymreig
Gostyngwch y gwres a chymysgu mewn 150ml (5 fl ozs) o hufen sengl
Mudferwch am 2/3 munud ac arllwyswch dros ben y stêcen