whatsits...sy’n cael eu gofyn yn aml

Pam ydy’r Mwstard yn Goch?

Mae mwstard Saesnig yn felyn, mwstard Ffrengig yn lliw brown ac fel yr ateb diffiniol i fwstard Saesnig a Ffrengig, yr oeddwn yn teimlo dylai ein mwstard Cymreig sefyll allan. Coch yw lliw crysau rygbi Cymru, felly pa lliw sy’n well i hyrwyddo mwstard cymreig.

Beth sy’n gwneud y Mwstard yn Goch?

Yr ydym yn defnyddio finegr gwin coch yn ein mwstard sy’n rhoi’r mwyafrif o’r lliw coch ond yr ydym hefyn yn ychwanegu tamaid bach o liw coch bwyd (E124) i ddod allan â hyfder y coch ac i roi’r lliw bywiog iawn yr ydych yn ei gweld yn y jar.

A ydy’r mwstard a saws mintys yn addas i lysieuwyr?

Ydyn

A ydy’r mwstard yn boeth?

Ydy

A ydy’r mwstard yn boeth iawn?

Ydy

Pa mor boeth yn union?

Mae’n fwy poeth na mwstard Saesnig ac mae’r mêl yn ei gwneud yn llai chwerw.

Faint o fêl sydd yn y mwstard?

Mae 42% o’r mwstard wedi ei gwneud allan o fêl.

Ble yr ydych wedi eich lleoli?

Mae ein prif swyddfa yng Nghiliau Aeron, jyst tu allan i Aberaeron yng Ngorllewin Cymru. Yr ydym yn cynhyrchu’r Mwstard Coch Cymreig a’r Saws Mintys Cymreig yng Nghanolfan Bwyd Cymru yn Horeb.

Beth sy’n gwneud y Saws Mintys a’r Mestard yn Gymreig?

Cafodd y ddau eu geni yng Nghymru, eu cynhyrchu yng Nghymru a Chymru sy’n eu perchenogi.
the welsh mustard company 2007. site created and hosted by hello studio creativity in design and communications