Cynnyrch y cwmni mwstard cymreig

Mwstard Coch Cymreig

Mae Mwstard Cymreig yn GOCH ac mae’n arallddewis diffiniol i fwstard Saesnig neu Ffrengig. Mae’n melys (42% o fel ym mhob pot), boeth (y mwstard wrth gwrs) ac yn goch (coch y crys rygbi) …… beth arall byddech chi’n disgwyl. Nid yn unig ei bod yn grêt gyda cigoedd oer/twym a chaws, mae hefyd yn eithriadol o amryddawn a gall cael ei defnyddio mewn amrediad o syniadau resipis cyffrous ac arloesol. Cliciwch ar ein tudalen syniadau resipis am fwy o ysbrydoliaeth “mouth watering”.

Cliciwch ar ein tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am ragor o gwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml amdano’r mwstard.

Mae ein Mwstard Coch Cymreig ar gael yn barod yn y bwytai a gwestai gorau ar draws Cymru. Mae tafarnau/bwytai Brain’s wedi bod yn defnyddio ein mwstard yn eu resipis am gyfnod hir erbyn hyn, ac mae pobl sydd wedi blasu’r mwstard yna wastad yn cysylltu â ni i’w prynu iddynt eu hunain. Mae’r llwyddiant dechreuol yma wedi arwain at ddiddordeb gan dosbarthwyr, adwerthwyr ac archfarchnadoedd cenedlaethol mawr - cliciwch yma

Saws Mintys Cymreig

Ychwanegiad newydd i’n cynhyrchion yw ein Saws Mintys Cymreig sy’n cael ei cynhyrchu i resipi gwreiddiol yn defnyddio’r mintys gorau (38%) a Mêl Wildflower (13.5%). Mae ein Saws Mintys Cymreig yn 100% GWYRDD – dim byd artiffisial o gwbwl. Dim lliwiau na chadwolion artiffisial, dim halen. Mae bob jar yn llawn mintys ffres ac wedi ei mwydo mewn mêl. Saws Mintys yn barod i’r bwrdd, yn union fel oedd Mamgu yn arfer gwneud.
Ac os ydych yn teimlo tamaid bach yn fwy anturiaethus beth am geisio gwneud dip Raita (Indiaidd) neu Tsatsiki (Mediterraneaidd). Cliciwch ar ein tudalen Syniadau am Resipis.
the welsh mustard company 2007. site created and hosted by hello studio creativity in design and communications